#

Papur briffio ar ddeiseb - P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru) ,Y Pwyllgor Deisebau | 3 Hydref 2017
 Petitions Committee | 3 October 2017
 
 Petitions Committee | 29 June 2016
 
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-774

Teitl y ddeiseb: Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ymgyrch ddiogelwch ‘addysg gyhoeddus’ flynyddol i addysgu holl ddefnyddwyr y ffordd sut i fynd heibio i geffylau a marchogwyr yn ddiogel, ac sy’n tynnu sylw at y peryglon / canlyniadau o beidio â gwneud hynny.

Rydym yn ymwybodol o ddeiseb yn y DU gyfan sy’n ymgyrchu dros lunio cyfraith ar basio ceffylau ar y ffordd yn llydan ac araf (https://www.change.org/p/uk-govt-make-it-law-to-pass-by-a-horse-wide-and-slow-and-abide-by-our-hand-signals) ac yn ei chefnogi, ond byddai’n well gennym weld addysg a dulliau atal yn hytrach na gweld erlyniadau yn dilyn digwyddiad difrifol neu angheuol.

Mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i fanteisio ar y deunyddiau a’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn sgîl ymgyrchoedd presennol fel: ‘Dead Slow’, sef ymgyrch diogelwch ar y ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain, (http://www.bhs.org.uk/safety-and-accidents/dead-slow ), tra bydd yn pwysleisio materion penodol sy’n wynebu defnyddwyr y ffordd yng Nghymru. Mae’r materion hyn yn cynnwys y cysylltiadau agos rhwng cymunedau trefol a chymunedau gwledig yng Nghymru, a phoblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. Mewn cymunedau mwy trefol (e.e. yr ardal gymudo o amgylch Caerdydd), mae swm sylweddol o draffig sy’n defnyddio ffyrdd gwledig, naill ai fel llwybr byr neu fel prif lwybr mynediad. Mewn rhannau eraill o Gymru (e.e. Caerfyrddin a Sir Benfro) ceir mewnlifiad blynyddol o ymwelwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o weld ceffylau ar y ffyrdd.

Y cyfan a ofynnwn yw bod gyrwyr yn dynodi marchogwyr fel defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed, a bod yn fwy ystyriol wrth fynd heibio i geffylau. Rydym yn teimlo mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy arweiniad Llywodraeth Cymru, yn unol â’u hymrwymiad i ‘Weithio gyda chynrychiolwyr o’r gymuned marchogaeth i ddeall eu pryderon ynghylch diogelwch y ffyrdd a sut i hwyluso ymgysylltiad â phartneriaid eraill.’ (Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013)).

​Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) yn amcangyfrif bod y diwydiant ceffylau o werth economaidd o £7 biliwn, a’i fod yn cyflogi 220,000 - 270,000 o bobl. Mae hyn, ochr yn ochr â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â marchogaeth ceffylau yn golygu ei fod yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Ond, yn gynyddol, teimlir nad yw llais marchogwyr yn cael ei glywed.

Byddai llawer o farchogwyr yn dewis peidio â defnyddio priffyrdd cyhoeddus, ond, gan fod faint o lwybrau ceffylau hygyrch sydd ar gael yn amrywio ledled Cymru, nid oes fawr o ddewis ganddynt yn aml iawn.

Mae Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013) yn cydnabod bod ceffylau a’u marchogwyr (yn ogystal â gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith ffyrdd, ac y gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau sy’n bygwth bywyd ar gyfer y ceffyl, y marchog a phobl mewn ceir a cherbydau eraill. Mae hefyd yn datgan bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes cofnod manwl o nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy’n ymwneud â cheffylau.

Wrth i nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn lleoliadau gwledig / lled-wledig gynyddu, gwelir cynnydd yn swm y traffig ar ffyrdd gwledig, sy’n cael eu defnyddio’n aml gan beiriannau fferm, ceffylau a marchogion. Mae llawer o yrwyr, newydd a phrofiadol, yn aml nad ydynt yn gwybod am y peryglon posibl o yrru’n gyflym ar y ffyrdd hyn, ac nid yw llawer yn gwybod sut i basio ceffylau yn ddiogel. Nid yw’r ffaith bod y terfyn cyflymder cyfreithiol ar y ffyrdd hyn yn 60 milltir yr awr, yn golygu ei bod yn ddiogel i yrru ar y cyflymder hwnnw.

Ar ben hynny, mae tystiolaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain (http://www.bhs.org.uk/our-charity/press-centre/news/jan-to-jun-2016/riding-and-road-safety-campaign ) sy’n dangos bod cynnydd o ran y digwyddiadau sy’n ymwneud â cheffylau, marchogion a cherbydau modur ar y ffordd ym mis Mehefin. Er bod y rhesymau dros y cynnydd hwn yn parhau’n aneglur, mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â gyrwyr ar eu gwyliau ar ffyrdd anghyfarwydd mewn amgylchiadau anghyfarwydd.

Cefndir

Cyfrifoldeb am ddiogelwch ar y ffyrdd

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisïau diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru ac, fel yr Awdurdod Cefnffyrdd perthnasol, mae'n gyfrifol am ddiogelwch rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Cymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar ffyrdd eraill. Mae gan sawl corff arall rôl ym maes diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys Asiant Cefnffyrdd De Cymru; Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru; a'r Heddlu.

Mae Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, GanBwyll, yn gweithio i leihau’r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd, a hynny drwy ddefnyddio camerâu diogelwch a mesurau gorfodi’n bennaf. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys 27 o bartneriaid cyfartal, gan gynnwys y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, y pedwar heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Yn y cyngor y bydd yn ei chynnig i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, ac yn ei hymgyrchoedd, nid yw’r Bartneriaeth yn cyfeirio'n benodol at y rhai sy’n marchogaeth ceffylau ar y ffyrdd.

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru, sef partneriaeth rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru; y gwasanaethau brys yng Nghymru; GanBwyll; Llywodraeth Cymru; a RoSPA, yn gweithio i annog partneriaid ac asiantaethau allweddol sy'n gyfrifol am hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru i gydweithredu a rhyngweithio. Ei chenhadaeth yw "lleihau anafiadau drwy gydweithio". Mae wedi cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau i hybu diogelwch ar y ffyrdd gan gynnwys  poster i hybu diogelwch marchogion ar y ffyrdd  (PDF 311KB).

Camau y mae’r Adran Drafnidiaeth wedi’u cymryd

Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn rhoi cyngor i fodurwyr a marchogion drwy  ei hymgyrch diogelwch ar y ffyrdd, sef PWYLLWCH! Dyma’r cyngor a roddir i fodurwyr:

• Arafwch a byddwch yn barod i stopio os bydd angen

• Cadwch lygad ar farchogion rhag ofn iddynt roi arwydd i chi arafu neu stopio

• Gwyliwch rhag symudiadau sydyn, mae ceffylau’n dychryn yn hawdd ac mae’n anodd rhagweld beth y byddant yn ei wneud

• Peidiwch â chanu’ch corn na refio’ch injan

• Ewch heibio’n araf gan adael digon o le i’r ceffyl. Peidiwch â chyflymu’n sydyn ar ôl mynd heibio.

• Ar gylchfannau, rhaid i farchogion gadw i'r chwith ar y gylchfan nes byddant yn cyrraedd eu ffordd ymadael a, bryd hynny, byddant yn rhoi arwydd eu bod am droi i’r chwith. Fel arfer, dim ond wrth gyrraedd ffordd ymadael nad ydynt am ei defnyddio y byddant yn rhoi arwydd eu bod yn mynd i’r dde.

Rheolau’r Ffordd Fawr

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cynnwys rheolau ar gyfer defnyddwyr ffyrdd y mae angen iddynt gymryd mwy o ofal nag arfer,fel marchogion. Mae'r Cod yn pwysleisio mai’r "defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed yw cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a marchogion" (Rheol 204). Mae Rheol 215 yn ymwneud â marchogion a cherbydau a gaiff eu tynnu gan geffylau:

Byddwch yn arbennig o ofalus i farchogion ceffylau a cherbydau a gaiff eu tynnu gan geffylau wrth fynd heibio iddynt. Ewch heibio’n araf gan adael digon o le. Mae marchogion yn aml yn blant, felly cymerwch fwy o ofal nag arfer a chofiwch y bydd dau farchog yn teithio wrth ochr ei gilydd weithio wrth i farchog profiadol hebrwng ceffyl neu farchog ifanc neu ddibrofiad. Cadwch lygad ar y marchogion rhag ofn iddynt roi arwydd i chi arafu neu stopio. Cymerwch ofal mawr gan drin pob ceffyl fel perygl posibl; mae’n anodd rhagweld beth y byddant yn ei wneud,  er gwaethaf ymdrechion y marchog / gyrrwr

O ran geiriad y Cod, er fydd neb yn cael ei erlyn am beidio â chadw at rheolau hyn, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, mae’n bosibl defnyddio achosion o’r fath mewn unrhyw achos llys i sefydlu cyfrifoldeb.

Llwyddwyd i sicrhau cefnogaeth 111,000 o unigolion ledled y DU i ddeiseb yn galw am gyflwyno cyfraith yn ymwneud â mynd heibio i geffylau a pharchu arwyddion llaw marchogion. Yn dilyn y ddeiseb, cynhaliwyd  trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ar 4 Gorffennaf 2017 ar ddiogelu marchogion a cheffylau ar ffyrdd gwledig.  Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd Jesse Norman, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:

the Department [for Transport], through the “THINK! road safety” campaign, worked directly with the British Horse Society to support its own “Dead Slow” campaign, to encourage car drivers to pass horses safely. The Department was able to reinforce the BHS campaign by developing a short film that is being promoted as a public information film on UK TV stations. […]

The Department has also invested in promoting the film on YouTube and other social media, such as Twitter and Facebook. Leaflets and posters to support the campaign further reminded motorists of the need to be patient when they encounter horses on the road and supplemented the advice already given in The Highway Code.

[…]  Road safety officers around the country have also been encouraged to feature the campaign locally. To some extent, therefore, there is already a national campaign, in embryo at least.

Mae’r fideo a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng yr Adran Drafnidiaeth a Chymdeithas Ceffylau Prydain yn dangos sut i fynd heibio i geffylau yn ddiogel, ac mae i’w gweld yma.

Camau y mae Cymdeithas Ceffylau Prydain a'r AA wedi’u cymryd

 Cymdeithas Ceffylau Prydain yw’r elusen sy'n gweithio i hybu a hyrwyddo addysg, hyfforddiant a diogelwch y cyhoedd ym mhob dim sy'n ymwneud â cheffylau. Mae'r Gymdeithas yn hyrwyddo diogelwch ceffylau a marchogion drwy gyhoeddiadau fel Road Sense for Riders (PDF 644Kb) a Horse Sense for Motorists (PDF 4.14MB), a'i hymgyrch Dead Slow .

Wrth lansio’i hymgyrch Dead Slow ym 2016, cyhoeddodd Cymdeithas Ceffylau Prydain ystadegau am ddigwyddiadau'n ymwneud â cheffylau ar y ffyrdd. Ar sail y digwyddiadau a gofnodwyd ar ei gwefan damweiniau ceffylau rhwng Tachwedd 2010 a Mawrth 2016, tynnodd y Gymdeithas sylw at y canlynol:

over 2,000 reports [2,070 incidents reported in five years] of road incidents involving horses have been reported to the charity. Of these, 36 caused rider deaths, and 181 resulted in a horse dying from their injuries or being put to sleep.

75% of accidents happened because the vehicle passed the horse without allowing enough space, while over a quarter of respondents said that they also had to deal with driver road rage during the incident.

O'r 2,070 o ddigwyddiadau a gofnodwyd, digwyddodd 146 yng Nghymru. Mae'r AA hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar rannu'r ffordd yn ddiogel â cheffylau.

Llywodraeth Cymru

Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru

Mae gwefan Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn "gweithio gyda'r heddlu, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru". Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru (PDF 1.13MB) yn 2013. Mae'r Fframwaith yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd tan 2020, gan gynnwys ei thargedau diogelwch ffyrdd a'r camau y mae’n eu cymryd i'w cyrraedd.

Mae Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targedau a ganlyn ar gyfer holl ffyrdd Cymru erbyn 2020, o’u cymharu â'r ffigurau cyfartalog rhwng 2004-2008:

gostyngiad o 40 y cant yn y nifer a gaiff eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

gostyngiad o 25 y cant yn nifer y beicwyr modur a gaiff eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

gostyngiad o 40 y cant yn nifer y bobl ifanc (16-24 oed) a gaiff eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Mae'r Fframwaith yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi ymgyrchoedd amrywiol yn ymwneud â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, gyrru’n ddiofal, defnyddio ffonau symudol a gwisgo gwregysau diogelwch. O ran marchogion, mae'r Fframwaith yn cydnabod bod y rhai sy’n marchogaeth ar y ffyrdd yn agored i niwed ac mae’n cynnwys ymrwymiad i weithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned farchogaeth i ddeall y pryderon yn well ac i hwyluso ymgysylltiad:

71. Mae ceffylau a'u marchogion (yn ogystal â gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith ffyrdd. Gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd beryglu bywyd y ceffyl, y sawl sy'n ei farchogaeth a'r rhai yn y cerbyd.

72. Mae tystiolaeth i awgrymu y caiff nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy'n cynnwys ceffylau eu tanadrodd mewn data anafusion11.

73. Mae marchogaeth yn fwy cyffredin (yn enwedig ar y ffyrdd) mewn rhannau penodol o'r wlad. Mae nifer fawr o bobl yn marchogaeth mewn ardaloedd gwledig ac maent yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi wledig.

Byddwn yn:

i. Gweithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned farchogaeth i ddeall eu pryderon o ran diogelwch ar y ffyrdd a hwyluso trefniadau i ymgysylltu â phartneriaid eraill.

Disgwyliwn i bartneriaid wneud y canlynol:

ii. Ymgysylltu â'r gymuned farchogaeth ac ystyried a ddylid cyflwyno unrhyw ymyriadau diogelwch ar y ffyrdd, mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o farchogion a/neu wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy'n cynnwys ceffylau.

Yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:

Mae gennym berthynas waith agos â Chymdeithas Ceffylau Prydain. Mae fy swyddogion yn siarad â chynrychiolydd Cymreig y Ceffylau Brydeinig yn rheolaidd ac yn eu cynorthwyo i wneud cysylltiadau ac i ymgysylltu â phartneriaid eraill yng Nghymru.

Rydym yn gwerthfawrogi arbenigedd Cymdeithas Ceffylau Prydain yn y maes hwn. Dyna pam yr ydym yn dewis cefnogi eu hymgyrchoedd yn hytrach na chynnal ein hymgyrchoedd ein hunain.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu datganiad blynyddol am ddamweiniau ffordd yng Nghymru yn seiliedig ar ddata’r heddlu am y nifer a gaiff eu hanafu  ar ffyrdd Cymru. Mae datganiad 2016 (PDF 2.27MB) yn cynnwys gwybodaeth am ddifrifoldeb yr anafiadau (wedi’u lladd, eu hanafu’n ddifrifol neu fân anafiadau) a gwybodaeth am y rhai a anafwyd (mae marchogion yn cael eu cynnwys yn y categori ‘defnyddwyr ffyrdd eraill'). Yn ôl y data sylfaenol ar gyfer pob categori o ddefnyddiwr a anafwyd ar ffyrdd Cymru, o'r 6,853 a anafwyd yn 2016, cafodd 1 marchog fân anafiadau. Yn ôl cofnodion heddluoedd Cymru ar gyfer 2015, cafodd 5 marchog fân anafiadau ac anafwyd dau arall yn ddifrifol.

Arian ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd

Caiff awdurdodau lleol arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd ar ffurf Grant Diogelwch ar y Ffordd. Gall awdurdodau lleol wneud cais am arian grant bob blwyddyn i roi prosiectau ar waith i geisio lleihau’r nifer a gaiff eu hanafu ar ffyrdd Cymru. Wrth ddyrannu’r arian, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i "gynlluniau sy'n lleihau nifer y beicwyr modur, y bobl ifanc a’r defnyddwyr ffyrdd eraill sy’n agored i niwed sy’n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol".

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu prosiectau i geisio gwella diogelwch marchogion ar y ffordd drwy’r Gronfa Datblygu Gwledig.

Camau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cymryd

Nid yw'r Gwasanaeth Ymchwil yn ymwybodol o  unrhyw drafodaethau blaenorol ar y mater hwn  yn y Cynulliad.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.